Amdanom Ni
Sefydlwyd Cadwyn yng nghefn gwlad Cymru yn nechrau'r saithdegau i hyrwyddo cynnyrch crefftwyr bach Cymreig. Erbyn diwedd yr wythdegau dechreuodd Cadwyn hefyd fasnachu yn deg gyda grwpiau o grefftwyr yng ngwledydd datblygol gogledd a gorllewin yr Affrig.
Sefydlwyd ein cwmni gan bobl oedd yng nghanol yr ymgyrchu i sicrhau dyfodol i gymunedau Cymraeg ac i ennill rhyddid i Gymru gymryd ei lle ymhlith cenhedloedd y byd a gwneud cysylltiadau uniongyrchol gyda phobloedd eraill.
Mae gan Cadwyn ddau nod sylfaenol sydd wrth gefn ein gweithgareddau i gyd:
- i ddarparu cyfleoedd ar gyfer crefftwyr Cymru a'r byd datblygol i werthu eu cynnyrch ac ennill bywolioaeth, a thrwy hynny gryfhau seiliau economaidd y cymunedau hyn.
- i drefnu'n gwaith yn y fath fodd i alluogi gweithwyr y cwmni i gael amser i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd dros gymunedau rhydd yn hytrach nac addoli'r farchnad "rydd".