Anrhegion o Gymru a'r Byd
Cymraeg
  • English
  • Cymraeg
Anrhegion o Gymru a'r Byd
Basged 0

Dydd Santes Dwynwen

Nawddsant cariadon Cymru yw Santes Dwynwen a oedd yn byw yn ystod y 5ed ganrif. Dethlir Dydd Santes Dwynwen yn flynyddol ar y 25ain o Ionawr ac yn aml bydd cariadon yn rhoi cardiau ac anrhegion i'w gilydd ar y diwrnod.

Pwyswch yma i weld Llwyau Caru sy'n addas fel anrhegion Dydd Santes Dwynwen.

Santes Dwynwen

Dywedir ei bod yn un o 24 o blant Brenin Cymru ar y pryd, Brychan Brycheiniog. Roedd hi'n enwog am fod yn grefyddol a phur iawn. 

Yn ôl y chwedl, syrthiodd Dwynwen mewn cariad â Maelon Dafodrill, ac roedden nhw eisiau priodi, ond gwrthododd ei thad gydsynio oherwydd ei fod wedi trefnu i Dwynwen briodi dyn arall. Yn ei ddicter, ymosododd Maelon ar Dwynwen a'i gadael.

Yn ei thristwch chwiliodd Dwynwen am gysur yn y coed gerllaw. Yno mae hi'n gweddïo ar Dduw i gael gwared â'i theimladau am Maelon. Wrth ateb ei gweddïau, daw angel at Dwynwen mewn breuddwyd, a rhoi diod iddi i'w helpu i anghofio Maelon, a'i droi'n iâ.

Anrhegion Dwynwen a San Ffolant

Mae Duw wedyn yn caniatáu tri chais i Dwynwen. Y cyntaf oedd i Maelon ddadmer, yr ail oedd y byddai Duw yn caniatau gobeithion a breuddwydion gwir gariadon, a'i chais olaf oedd nad oedd hi byth i briodi. Daeth ei dymuniadau yn wir, a diolchodd am hyn drwy gysegru gweddill ei bywyd i Dduw.

Daeth Dwynwen wedyn yn lleian ac ymgartrefodd ar Ynys Llanddwyn, oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Bu farw o achosion naturiol tua 460 OC. Gellir gweld olion yr eglwys Duduraidd o'r 16eg ganrif yn Llanddwyn  heddiw er bod y safle wedi'i briodoli i'r eglwys a sefydlwyd gan Dwynwen. Mae'r eglwys a'r ffynnon gyfagos wedi denu pererinion ar hyd y canrifoedd, yn enwedig cariadon ifanc sy'n ceisio sicrwydd am ddyfodol gyda'i gilydd.

Dywedwyd bod dŵr y ffynnon yn gartref i bysgodyn (neu lysywen) hudol a chysegredig a oedd yn gallu  rhagweld dyfodol cariadon ifanc. Gofynnwyd cwestiynau i'r pysgodyn a chaed atebion yn symudiadau'r pysgodyn. Byddai merched yn profi ffyddlondeb eu gwŷr trwy daflu briwsion bara i'r dŵr ac yna gosod hances boced ar yr wyneb. Byddai'r gŵr yn cael ei ystyried yn ffyddlon pe bai'r pysgodyn yn tarfu ar yr wyneb.

Anrhegion Santes Dwynwen a San Ffolant

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd cynnydd  yn nathliadau Dydd Santes Dwynwen gyda mwy o bobl yn danfon cardiau ac anrhegion fel llwyau caru. Hefyd cynhelir digwyddiadau arbennig megis partïon, cyngherddau a thwmpathau ar 25ain o Ionawr  sy'n arwydd o'r cynnydd ym mhoblogrwydd dathlu Dydd Santes Dwynwen ymhlith y Cymry.