Llwy Garu 10fed Penblwydd Priodas - 019
Pris rheolaidd
£32.50
Treth wedi'i chynnwys.
Bydd Cludiant yn cael ei gyfrifo wrth dalu.
Llwy unigryw i ddathlu'r 10fed penblwydd priodas. Mae'r ffigwr 10 wedi ei gerfio ar frig y llwy, gyda calon a chynllun cwlwm celtaidd o dan y rhif. Gellir llosgi enwau'r pâr sy'n dathlu'r 10fed penblwydd priodas ar y galon, a'r dyddiad ar letwad y llwy. Mae'r llwy yn addas fel anrheg oddi wrth ŵr i'w wraig, neu gan wraig i'w gŵr, neu hyd yn oed fel anrheg gan gyfaill i'r pâr sy'n dathlu penblwydd priodas.
Llosgysgrifennu: Mae'r Llwy Garu hon yn addas ar gyfer enwau.
Amgaeir cerdyn gydag esboniad o draddodiad y Llwy Garu gyda phob archeb.
Uchder: 25cm / 9.5"
Achlysuron: 10fed Penblwydd Priodas
TUDALENNAU GWYBODAETH AM LWYAU CARU:
Ystyron a Symbolau - Cerfwyr - Hanes - Llosgysgrifennu