Llwy Garu 5ed Penblwydd Priodas - 018
Llwy arbennig - yn draddodiadol rhoir anrheg wedi'i wneud o bren pan yn dathlu 5ed penblwydd priodas. Mae Cadwyn wedi cynhyrchu'r llwy arbennig hon i ddathlu 5ed penblwydd priodas. Ar y llwy ceir rhif 5 wedi'i gerfio ar y brig, calon a chwlwm celtaidd. Gellir llosgi enwau'r pâr sy'n dathlu penblwydd priodas ar y galon, a'r dyddiad ar bowlen y llwy. Mae'r llwy yn addas fel anrheg oddi wrth ŵr i'w wraig, neu wraig i'w gŵr, neu fel anrheg gan gyfaill i'r pâr sy'n dathlu penblwydd priodas.
Llosgysgrifennu: Mae'r Llwy Garu hon yn addas ar gyfer enwau.
Amgaeir cerdyn gydag esboniad o draddodiad y Llwy Garu gyda phob archeb.
Uchder: 25cm / 9.5"
Achlysuron: 5ed Penblwydd Priodas
TUDALENNAU GWYBODAETH AM LWYAU CARU:
Ystyron a Symbolau - Cerfwyr - Hanes - Llosgysgrifennu