Llwy 5ed Penblwydd Priodas Gywrain - 018a
Dyma lwy gywrain i ddathlu'r 5ed penblwydd priodas. Mae'n draddodiad i roi anrheg wedi'i wneud o bren i ddathlu 5ed penblwydd priodas. Mae'r ffigwr 5 wedi ei gerfio ar frig y llwy oddi fewn i siap calon, oddi tano ceir dwy galon wedi'u dal at ei gilydd gyda siap diamwnt. Mae'r deiamwntau'n draddodiadol yn arwydd o lwc dda. Gellir llosgi enwau'r pâr sy'n dathlu penblwydd priodas ar y galon uchaf, a'r dyddiad ar y galon islaw. Mae'r llwy yn addas fel anrheg oddi wrth ŵr i'w wraig, neu gan wraig i'w gŵr, neu hyd yn oed fel anrheg gan gyfaill i'r pâr sy'n dathlu'r penblwydd priodas.
Llosgysgrifennu: Mae'r Llwy Garu hon yn addas ar gyfer enwau.
Amgaeir cerdyn gydag esboniad o draddodiad y Llwy Garu gyda phob archeb.
Uchder: 28cm / 11"
Achlysuron: 5ed Penblwydd Priodas
TUDALENNAU GWYBODAETH AM LWYAU CARU:
Ystyron a Symbolau - Cerfwyr - Hanes - Llosgysgrifennu